![]() |
![]() |
![]() |
||
26 Mehefin 2023
Parthed: Diolch – Thank you
Annwyl Ailbhe,
Diolch i chi am ddod i'r Pwyllgor gyda'ch cydweithiwr, Neasa Ní Chiaráin, ddydd Mercher 7 Mehefin 2023, a’r papurau ychwanegol a ddarparwyd gennych drwy e-bost ar 9 Mehefin 2023.
Fe wnaethom ni fwynhau ein cyfarfod yn fawr iawn a chlywed am eich gwaith yn datblygu technolegau lleferydd ac iaith ar gyfer yr iaith Wyddeleg. Bydd y wybodaeth a’r profiadau yr ydych wedi’u rhannu yn llywio gwaith ein hymchwiliad ar gysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon, a pholisi iaith Gymraeg. Mae gennym ddiddordeb mawr mewn edrych ymhellach ar y cymorth a gynigir gan llywodraethau i ieithoedd Celtaidd eraill, a gallwn ymgorffori hyn yn ein rhaglen waith yn y dyfodol. Os bydd y cyfle’n codi, byddwn yn sicr yn manteisio ar eich cynnig caredig i ymgysylltu â ni ymhellach.
Dymunwn bob llwyddiant i chi gyda'ch ymdrechion yn y dyfodol.
Yn gywir,

Delyth
Jewell AS
Cadeirydd y
Pwyllgor
Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.
We welcome correspondence in Welsh or English.